Psalms 112

Y fendith sydd i'r person duwiol

1Haleliwia!

Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r Arglwydd
ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
2Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus;
cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.
3Bydd e'n gyfoethog,
a bob amser yn byw'n gywir.
4Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol;
y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.
5Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthyg
ac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.
6Fydd dim byd yn tarfu arno;
bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.
7Does ganddo ddim ofn newyddion drwg;
mae e'n trystio'r Arglwydd yn llwyr.
8Mae e'n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim;
mae'n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd.
9Mae e'n rhannu ac yn rhoi yn hael i'r tlodion;
bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.
Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu.
10Bydd pobl ddrwg yn gwylltio pan welan nhw hyn.
Byddan nhw'n ysgyrnygu eu dannedd, ac yn colli pob hyder,
am fod eu gobeithion nhw wedi diflannu.
Copyright information for CYM